Ar safle Ysgol Pencae
Rydym ar agor o ddydd Llun i Dydd Gwener rhwng 9am-1pm i blant 2-4 oed.
Mewn clytiau neu ddim!
Am fwy o fanylion cysylltwch: 07730459977
Mae Cylch Meithrin Penmaenmawr yn gweithredu o dan adain Mudiad Meithrin. Prif nod y mudiad yw rhoi cyfle i bob plentyn rhwng dwy a hanner oed a phedair oed fanteisio ar brofiadau cyn-ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llawer o blant yn ymuno a ni yn ddi gymraeg ac yn cael ei cefnogi pob cam o'r daith, mae hyn hefyd yn wir am rieni.
Mae'r pwyslais ar addysg drwy chwarae gan fod chwarae yn sylfaenol i bob agwedd ar ddatblygiad plentyn. Cynigwn amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau mewn amgylchedd cartrefol a diogel. Lleolir y Cylch ym mlaen yr ysgol mewn ystafell newydd bwrpasol newydd sbon!