Hafan > Polisi Preifatrwydd
Yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (General Data Protection Regulations) (GDPR) a ddaw i rym ar 25 Mai 2018, mae’r hysbysiad hwn yn nodi beth mae Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol ac Ysgol Morfa Rhianedd yn ei wneud gyda gwybodaeth bersonol a pherfformiad plant a phobl ifanc, ac unrhyw wybodaeth bersonol sy’n ymwneud â chi fel rhiant / gwarcheidwad.
Bydd yr wybodaeth yn yr hysbysiad hwn yn cael ei adolygu er mwyn cynnwys unrhyw newidiadau pellach a ddarparwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
1. Casglu data personol
Mae’r ysgol yn casglu gwybodaeth am blant, pobl ifanc a’u rhieni neu’r gwarcheidwaid cyfreithiol pan fônt yn mynd i ysgol newydd, maent hefyd yn casglu gwybodaeth ar amseroedd eraill o’r flwyddyn ysgol. Derbynnir gwybodaeth gan ysgolion eraill pan fo disgyblion yn trosglwyddo.
Bydd yr Awdurdod Lleol yn cael gwybodaeth am blant / pobl ifanc o’r ysgol / y sefydliad addysgol.
Bydd yr ysgol a’r Awdurdod Lleol yn dod yn rheolwr y data ar ôl cael yr wybodaeth.
Mae gennym gamerâu cylch cyfyng (CCC) mewn lleoliadau allweddol er budd diogelwch ac er mwyn atal a chanfod trosedd. Mae arwyddion amlwg sy’n eich hysbysu bod CCC yn cael ei ddefnyddio ac yn darparu gwybodaeth ynghylch pwy i gysylltu ag ef ynghylch gwybodaeth bellach amdo.
Nid ydym ond yn datgelu delweddau i drydydd plaid er mwyn diogelwch cyhoeddus ac atal a darganfod trosedd.
2. Pa wybodaeth sy’n cael ei gadw?
Mae gwybodaeth bersonol a chategori arbennig sy’n cael ei gasglu’n cynnwys:
3. Beth sy’n digwydd i’ch gwybodaeth?
Mae’r wybodaeth a gasglwyd yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu plant a phobl ifanc a sicrhau bod manylion cysylltu priodol ar gael er mwyn cysylltu â rhieni / gwarcheidwaid.
Mae’r ysgol a’r Awdurdod Lleol hefyd yn defnyddio’r wybodaeth mae’n ei gasglu ar gyfer gwneud ymchwil.
Mae’n defnyddio canlyniad yr ymchwil i wneud penderfyniadau ar bolisi ac ariannu’r ysgol, cyfrifo perfformiad ysgolion a’u helpu i osod targedau.
Mae’r ymchwil hefyd yn cyfarwyddo’r addysg sy’n cael ei ddarparu i blant a phobl ifanc e.e.:
Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomaidd, gan gynnwys proffilio. Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniad awtomatig amdanoch heb ymyrraeth ddynol.
4. Â phwy mae eich gwybodaeth yn cael ei rannu?
Mae gwybodaeth ynghylch plant a phobl ifanc fel arfer yn cael ei anfon yn uniongyrchol o ysgolion a’r Awdurdod Lleol at Lywodraeth Cymru fel rhan o gasglu data statudol sy’n cynnwys y canlynol:
Gall gwybodaeth sy’n cael ei gadw gan yr ysgol a’r Awdurdod Lleol ar blant a phobl ifanc a’u rhieni neu warcheidwaid cyfreithiol gael ei rannu gyda sefydliadau eraill pan fo’r gyfraith yn caniatáu hyn, e.e., gyda:
5. Am ba hyd y byddwn yn cadw’r wybodaeth?
Bydd yr ysgol a’r Awdurdod Lleol yn cadw a dinistrio’r wybodaeth yn unol â’u hamserlen dargadwedd, mae’r rhain ar gael trwy’r rhestr cysylltu isod.
6. Eich hawliau o dan GDPR
Mae gennych hawl i:
Cysylltwch â’r isod ynghylch yr wybodaeth mae’r ysgol a’r Awdurdod Lleol yn ei gadw a’i ddefnyddio, neu os ydych yn dymuno defnyddio eich hawl o dan GDPR:
Pennaeth
Ysgol Pencae
Graiglwyd Road
Penmaenmawr
Conwy
LL34 6YG
01492 622219
pennaeth@pencae.conwy.sch.uk
Cyswllt yr Awdurdod Lleol:
01492 574114
schoolDPO@conwy.gov.uk
Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Information Commissioners Office,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire.
SK9 5AF
Rhif ffôn y llinell gymorth: 029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (llinell gymorth Prydain)
Gwefan: www.ico.gov.uk
Cyhoeddwyd Mai 2018